Ar lefel y Memorandwm ar yr Economi a’r Seilwaith

Cynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2018-19

 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig – 16 Tachwedd 2017


 

1.0         Cyflwyniad

 

Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth am gynigion cyllideb yr Economi a’r Seilwaith fel yr amlinellwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2018-19 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 mewn perthynas â chylch gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

Mae ein cynigion yn cyflwyno cyllideb mewn cyd-destun heriol o gyni parhaus, ond un sy’n ein cymell i ddal i anelu at ddyfodol cynaliadwy ac ecogyfeillgar.  Gallwn ddal i anelu at ddatgarboneiddio a’r effaith tymor hirach y bydd hyn yn ei gael ar gymunedau ar draws Cymru, ar yr un pryd â chydnabod yr angen i helpu i liniaru effeithiau newid yr hinsawdd.

 

Mae cysylltiad sylfaenol rhwng newid yr hinsawdd a thwf cynaliadwy a swyddi. Mae’n effeithio ar ein ffyniant economaidd ac mae’n bwysig ein bod yn bachu ar y cyfleoedd mewn ynni adnewyddadwy. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod y llwybr at ddatgarboneiddio yng Nghymru i leihau allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050 yng nghyd-destun rhwymedigaethau ar lefel y DU a rhyngwladol. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i gyflwyno cyfres o dargedau cyfamserol a chyllidebau carbon erbyn 2018.

 

Rydym yn ystyried sut y gallwn alinio’n cylchoedd cynllunio ar gyfer cyllidebau carbon a chyllidebau ariannol fel rhan o’n paratoadau ar gyfer cyllideb 2019-20. Fodd bynnag, mae fy nghynigion cyllideb yn cyfrannu’n uniongyrchol at yr agenda hwn, a chânt eu cefnogi hefyd gan y dull ehangach yr ydym wedi’i fabwysiadu ar gyfer cydweithredu ar draws y sector cyhoeddus.  

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Symud Cymru Ymlaen 2016-21 sy’n cyflwyno’i blaenoriaethau i sicrhau mwy o swyddi a’r rheiny’n swyddi gwell drwy gyfrwng economi gryfach a thecach, i wella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus, ac i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol yn cyflwyno’r modd yr ydym yn gweithio ar draws y llywodraeth i gyflawni Symud Cymru Ymlaen dros dymor y llywodraeth hon ac yn gosod y sylfaeni am welliannau tymor hirach ar gyfer pobl Cymru.

 

Prif nod ein cyllideb yw cyflawni’n rhaglen lywodraethu a’r amcanion Llesiant a gyflwynir yn ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb:

 

·         Cefnogi pobl a busnesau i ysgogi ffyniant

·         Darparu seilwaith modern a chysylltiedig

·         Hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd

·         Sicrhau bod gan bawb y sgiliau cywir ar gyfer byd sy’n newid

·         Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg

·         Ysgogi twf cynaliadwy a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

·         Datblygu cymunedau, diwylliant ac iaith sy’n gydnerth.

 

Byddwn yn lansio Cynllun Gweithredu Economaidd newydd yn yr hydref a          fydd yn ein helpu i weithio gyda’r gymuned fusnes i ymateb i’r heriau allweddol hyn.

Bydd cynigion y gyllideb yn cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau allweddol yr Economi a’r Seilwaith o dan y pedair strategaeth a amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael mewn ffordd sydd mor ecogyfeillgar a chynaliadwy â phosibl. Mae’r gyllideb yn arddangos ein h
ymrwymiadau cyffredin drwy’r cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru. Mae hyn yn hyrwyddo ein hamcanion amgylcheddol, gyda chefnogaeth ar gyfer y mentrau allweddol, fel darpariaeth uwch o £1m yn 2018-19 a 2019-20 ar gyfer mannau gwefru trydanol i geir er mwyn galluogi’r gwaith o drosi i drafnidiaeth sy’n achosi llai o allyriadau. Gallai’r cyllid uwch ar gyfer gwelliannau i gysylltiadau rhwng y de a’r gogledd, sef £15m yn 2019-20 ar gyfer yr A487 a’r A470 hefyd gyfrannu at leihau allyriadau carbon.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd wedi rhoi’r fframwaith ar gyfer datblygu’n cynllun ac rydym wedi cymryd safbwynt tymor hir a dull integredig yn ein prosesau penderfynu.

 

2.0         Trosolwg o’r Gyllideb


Mae’r Gyllideb Ddrafft yn cwmpasu 2018-19 a 2019-20 ar gyfer refeniw a 2018-19 i 2020-21 ar gyfer cyfalaf. Hon yw’r flwyddyn gyntaf i gyllideb amlinellol (Cam 1) gael ei chyhoeddi ar 3 Hydref 2017 cyn cyhoeddi cyllideb fanwl wedyn (Cam 2) ar 24 Hydref 2017.

 

Mae trosolwg o ddyraniadau’r gyllideb i gefnogi gweithgarwch yr Economi a’r Seilwaith i’w weld yn y tabl isod:

 

MEG yr Economi a’r Seilwaith

2018-19 Cynlluniau Newydd Cyll. Ddrafft  £’000

2019-20

Cynlluniau Newydd Cyll. Ddrafft
£'000

2020-21

Cynlluniau Newydd Cyll. Ddrafft
£'000

Adnoddau

800,497 

 

766,655

 

-

Cyfalaf

411,421

 

487,035

 

504,624

 

CYFANSWM DEL

 

1,211,918

1,253,690

504,624

AME

38,632

 

166,867

 

-

CYFANSWM

1,250,550

 

1,420,557

 

504,624

 

 

Mae’r egwyddor o gynaliadwyedd wedi’i hymgorffori yn ein prosesau penderfynu a’n cynlluniau.

 

2.1      Refeniw

 

Wrth lunio’n cynlluniau gwariant ar gyfer 2018-19 rydym wedi ceisio lleihau effaith toriadau ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thwf a swyddi yn y tymor byr. Yn y tymor hirach bydd angen i ni rannu adnoddau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a chydweithio gyda’n partneriaid i sicrhau arbedion effeithlonrwydd tymor hir. Rydym yn cynnwys pobl yn y broses o benderfynu yn y dyfodol er mwyn llywio’n blaenoriaethau.

 

Mae cyllidebau ynni a’r amgylchedd yn rhoi blaenoriaeth i fentrau sy’n cefnogi datblygu busnesau cynaliadwy. £1.458m yw’r gyllideb yn 2018-19 a £1.753m yn 2019-20. Mae hyn yn cynnwys datblygu cadwyni cyflenwi fel Fit 4 Nuclear sy’n galluogi cwmnïau i baratoi ar gyfer y cyfleoedd mewn ffynonellau ynni newydd.

 

Mae’r gyllideb Trafnidiaeth yn cynnwys £51.620m yn 2018-19 a £53.933m yn 2019-20 ar gyfer teithio cynaliadwy, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cefnogi’r newid moddol oddi wrth geir a thuag at drafnidiaeth gyhoeddus, fel tocynnau teithio rhatach, masnachfraint y rheilffyrdd a cherdded a beicio.

 

Er enghraifft, mae’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bws wedi’i gadw ar £25m y flwyddyn er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i roi cymorthdaliadau i wasanaethau bws a gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol. Gyda golwg ar y setliadau cyllideb heriol, rydym yn ymgynghori’n eang gyda’r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau bod gwasanaethau bws fforddiadwy, cynaliadwy ac o safon yn y tymor hir. Tystiodd yr Uwchgynhadledd Fysiau gyntaf ym mis Ionawr 2017 ein bod yn gweithio mewn modd cydweithredol ac mae’n cefnogi’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

2.2      Cyfalaf

 

Bydd fforddiadwyedd rhaglenni cyfalaf dros gyfnod tair blynedd y gyllideb yn parhau i fod yn heriol. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wariant ataliol, gan werthuso buddion a chanlyniadau tymor hir ein buddsoddiadau strategol er mwyn sicrhau’r buddion economaidd gorau posibl a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Wrth ddatblygu’n buddsoddiadau strategol rhoddir ystyriaeth lawn a phriodol i’w cynaliadwyedd, eu heffaith ar yr amgylchedd a’u cyfraniad at nodau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu i leihau effeithiau newid yr hinsawdd. Bydd ariannu arloesol a chyfleoedd eraill i wella’n hadnoddau ariannol yn bwysig, fel y bydd blaenoriaethu a dull hyblyg ar gyfer cynllunio buddsoddi er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud defnydd llawn o’r pwerau benthyg cyfalaf a ddarparwyd gan Ddeddf Cymru 2017 i gynyddu’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i ni, yn enwedig er mwyn cefnogi cyllido’r M4 newydd, yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Mae £740m o gyllid wedi’i glustnodi mewn cronfeydd canolog ar hyn o bryd.

Bydd sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru yn bwysig ar gyfer asesu’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi cyfalaf.

Mae ein gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn cefnogi’n huchelgais i leihau allyriadau drwy gwtogi’r defnydd ar geir a sicrhau cerbydau glanach a mwy effeithlon, sy’n beth da o ran ein hiechyd a’n hamgylchedd. Er enghraifft, bydd Metro De Cymru yn trawsffurfio’r ffordd a deithiwn o amgylch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gynnig gwasanaethau cyflymach, amlach a mwy cydgysylltiedig gan ddefnyddio trenau, bysiau a rheilffyrdd ysgafn. Mae oddeutu £452m wedi’i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn y cyfnod rhwng 2018-19 a 2020-21. Mae hyn yn cynnwys dyraniad ychwanegol ar gyfer
£50m o gyfalaf dros gyfnod y gyllideb hon ar gyfer datblygu gorsaf drenau newydd yn Llan-wern. Bydd yn darparu cyfleusterau parcio a theithio helaeth a gwelliannau i’r llinell, ac yn gwella cysylltiadau i gymunedau i’r dwyrain o Gasnewydd, gan roi hwb i gyfleoedd datblygu economaidd ac alinio gyda gwelliannau eraill i drafnidiaeth fel Metro De Cymru a’r M4.

 

Rhoddwyd dyraniad ychwanegol o £15m yn 2019-20 ar gyfer gwelliannau deuoli rhwng y de a’r gogledd i’r A470 a’r A487 fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i fynd i’r afael â’n cynlluniau i liniaru mannau traffig cyfyng a, thrwy leihau amseroedd teithio, byddant yn helpu i leihau ein hallyriadau carbon yn unol â’n huchelgais cyffredinol i leihau allyriadau o’r fath erbyn 2050.

 

 

3.0   DATBLYGU ECONOMAIDD

 

3.1      Sut y mae ystyriaethau amgylcheddol, gan gynnwys newid yr hinsawdd, ynni carbon isel a datblygu cynaliadwy, wedi’u cynnwys yn y penderfyniadau a wnaed i gefnogi busnesau unigol (neu beidio), a sut y caiff yr effeithiau sy’n deillio o unrhyw gefnogaeth a roddir eu hasesu yn eu cyfanrwydd ar draws eich adran.

Mae ynni diogel a fforddiadwy yn hanfodol i gynhyrchiant a thwf economaidd.

 

O fewn y sector Ynni a’r Amgylchedd, dangosodd adroddiad Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y disgwylir y bydd twf yn y DU yn dal i gyfrif am tua 8% o GDP ac yn dal i gefnogi hyd at 2 filiwn o swyddi erbyn 2030, gan godi i 13% o GDP gyda 5 miliwn o swyddi erbyn 2050. Mae’r sector yn dal i ddenu buddsoddiadau a rhagwelir y bydd y twf mewn gwasanaethau carbon isel yn arbennig o uchel, tua 12-15% y flwyddyn.

 

Mae’r Datganiad Ynni diweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mewn perthynas â phennu targedau i Gymru ar gyfer cynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy, yn tystio i ymrwymiad pellach i gefnogi buddsoddiadau datgarboneiddio yng Nghymru yn y dyfodol agos.

 

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd statudol i sicrhau gostyngiad o 80% fan leiaf yn allyriadau Cymru erbyn 2050 gyda chyfres o dargedau cyfanserol a chyllidebau carbon bob pum mlynedd i’w cefnogi. Mae hyn yn hanfodol yng nghyd-destun ein rhwymedigaethau Prydeinig a rhyngwladol ac mae’n gosod llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i fusnesau a buddsoddiadau a bydd angen newid sylfaenol i dri o leiaf o’r prif rwydweithiau seilwaith cenedlaethol – Pŵer, Trafnidiaeth a Gwres. Yr her yw sicrhau y caiff y newid hanfodol hwn ei gyflawni mewn ffordd sy’n sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’n effeithiol ac yn fforddiadwy i gwsmeriaid a busnesau. Y cyfle i Gymru yw sicrhau’r budd economaidd y mae gweithredu newid mor drawsffurfiol yn ei gyflwyno.

 

Yn y sector Ynni a’r gefnogaeth i’r diwydiant dur rydym wedi bod yn cefnogi’r trawsffurfiad hwn, yn anad dim drwy sefydlu cronfa Cynllun Diogelu’r Amgylchedd, cronfa a ddefnyddiwyd, ac sy’n cael ei defnyddio, i gefnogi rhai o’n cyflogwyr diwydiannol mwyaf i fuddsoddi yn y technolegau diweddaraf i leihau ac atal allyriadau ar gyfer eu cyfleusterau cynhyrchu.

 

Rydym yn dal i weithio gyda Tata Steel a’r gwaith dur ym Mhort Talbot. Mae’r safle yn un o brif gyflogwyr Cymru, yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru ac mae hefyd iddo oblygiadau amgylcheddol sylweddol o achos natur ei weithgareddau. Rydym eisoes wedi rhoi £8m o gefnogaeth i’r orsaf bŵer ym Mhort Talbot a fydd yn gwella’r defnydd o ynni ac yn lleihau allyriadau carbon yr orsaf. Rydym yn ymroddedig i archwilio ymhellach i sut y gallwn leihau effeithiau amgylcheddol y safle.

 

Rydym yn parhau i gefnogi busnesau i ysgogi arbedion ynni mewn cynhyrchu. Bydd symud tuag at economi gylchol hefyd yn dod â gwerth economaidd gwell i Gymru drwy ein cadwyni cyflenwi ac yn ein gwneud yn fwy cadarn yn y tymor hir. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran cyfleoedd am gyflogaeth yn agosach at gartref.

 

Mae datblygu economi gylchol mewn arloesedd yn enghraifft o sut rydym yn cydweithio i ymgorffori prosesau er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol yn y tymor hir. Mae’n un o gysyniadau allweddol yr economi werdd, ac yn seiliedig ar optimeiddio systemau yn hytrach na chydrannau, gan ymbellhau oddi wrth systemau ‘Adnodd i Wastraff’ a symud tuag at systemau cylchol gwydn a chynhyrchiol. Mae datblygu perthynas strategol gyda sefydliadau fel Sefydliad Ellen MacArthur, McKinsey Company a mentrau rhyngwladol yn hollbwysig ar gyfer archwilio i’r economi gylchol a’i rhoi ar waith. Mae tîm a chwmnïau Arloesi SMART yn asesu elfennau allweddol ar gyfer gweithgynhyrchu a dewis deunyddiau, fel y gallu i ailgylchu, ailddefnyddio, gwneud gwell defnydd, defnyddioldeb hirach, llai o wastraff, a dyluniad. Mae hyn yn digwydd ochr yn ochr â datblygu cynhyrchion, prosesau a dyluniadau newydd a bydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cymru ffyniannus a gwydn sy’n ymwybodol o’i chyfrifoldeb i’r byd.

 

 

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn tir ac adeiladu i gefnogi busnesau ar draws economi Cymru. Pan fyddwn yn adnewyddu adeiladau sy’n bodoli eisoes neu’n codi adeiladau newydd, ble bo hynny’n bosib, bwriedir y caiff y rhain eu hadeiladu hyd at safon ‘rhagorol’ BREEAM a thrwy hynny sicrheir bod ein hymyriadau yn yr amgylchedd adeiledig yn rhai cynaliadwy sy’n achosi cyn lleied o allyriadau carbon ac sy’n defnyddio cyn lleied o ynni â phosibl.

 

Mae’r DU wedi llofnodi nifer o safonau amgylchedd a hinsawdd yr UE. Mae peth ansicrwydd o hyd ynghylch effaith unrhyw gytundeb Brexit ar y sefyllfa hon ac rydym yn gweithio i sicrhau y bydd cytundeb ymadael yn gweithio o’n plaid ni yng Nghymru ac yn unol â’r nodau yr ydym wedi eu datgan yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

Mae ein Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb, yn disgrifio sut y byddwn yn sicrhau ffyniant mewn modd sy’n cefnogi ac yn cynnal amgylchedd naturiol trawiadol Cymru, yn sicrhau y bydd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn parhau i elwa, ac yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i’r frwydr yn erbyn newid yr hinsawdd. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rwy wedi gofyn i’m swyddogion gynnig opsiynau ar gyfer sut y gallwn sicrhau bod ein holl gynigion am gymorth i fusnesau yn cynnwys ymrwymiad ganddyn nhw y byddant yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

 

3.2      Sut y bydd strategaeth ‘Ffyniannus a Diogel’ yn ceisio cyfrannu at gyflawni amcanion amgylcheddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei huchelgeisiau ar gyfer newid yr hinsawdd, ynni carbon isel a datblygu cynaliadwy, ac a fydd hyn yn golygu unrhyw newidiadau sylweddol i weithgareddau neu ymyriadau eich adran.

Mae Ffyniannus a Diogel yn cyflwyno’r cynllun ar gyfer sut y byddwn yn cyflawni economi gynaliadwy a chadarn sy’n gwneud y gorau o’r adnoddau naturiol sydd ar gael i Gymru ac yn cadw ac yn gwarchod yr asedau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein cynlluniau cyllideb yn canolbwyntio ar lesiant ar gyfer yr holl amcanion, gan gynnwys ysgogi twf cynaliadwy a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae nifer o gamau gweithredu wedi’u hadlewyrchu yn y cynigion cyllideb hyn sy’n adeiladu ar y gwaith da sy’n mynd rhagddo i gyflawni’r uchelgeisiau hyn.

 

Yn hanesyddol, mae Cymru wedi bod yn lleoliad ar gyfer buddsoddiadau mewn ynni carbon isel ac adnewyddadwy, yn arbennig mewn ynni niwclear, ynni gwynt ar y môr ac ar y tir, ynni dŵr a thechnolegau eraill ar gyfer cynhyrchu ynni. Mae llawer o’r ysgogiadau i gyflawni prosiectau o’r fath wedi dod o’r tu hwnt i Gymru ond, serch hynny, rydym wedi gweithio’n dda gyda buddsoddwyr mewn prosiectau o’r fath i gyflawni buddion gwirioneddol i Gymru o ran cyflogaeth a chontractau lleol.

 

Ar gyfer y dyfodol, y buddsoddiad £10-12bn yn Wylfa Newydd yw’r buddsoddiad mwyaf yng Nghymru gan y sector preifat ers cenhedlaeth. Mae angen cydlynu ymateb ar draws Llywodraeth Cymru drwy integreiddio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Wylfa Newydd ar draws y polisïau a’r rhaglenni presennol, fel y bo angen. Mae hyn yn cynnwys darparu pecynnau newydd o weithgareddau ble bo hyn yn ychwanegu gwerth ac yn cyfrannu at sicrhau buddion etifeddol, er mwyn cyflawni’r canlyniadau economaidd a ragwelwyd.

 

Yn Ffyniannus a Diogel adnewyddwyd ein hymrwymiad i sicrhau y caiff mwy o ynni adnewyddadwy ei gynhyrchu yng Nghymru. Bydd y targed a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef y bydd Cymru yn cynhyrchu 70% o’r trydan y byddwn yn ei ddefnyddio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiadau pellach yn y sector. Yn y dyfodol, bydd gennym fwy o reolaeth dros ganiatâd i brosiectau ynni ar ôl Deddf Cymru 2017.

 

Mae ansicrwydd yn dal i fod ynghylch effeithiau a goblygiadau unrhyw gytundeb Brexit ar y sector, ar y graddau y bydd y DU, ac felly Cymru, yn gallu denu buddsoddiadau, yr ymrwymiadau presennol i safonau a rheoliadau amgylcheddol, y goblygiadau i fasnach drawsffiniol mewn ynni, a than y caiff hyn ei grisialu, bydd yr effaith ar ein strategaeth a sut y bydd angen i ni ymateb yn parhau’n ansicr.

 

Er mwyn ysgogi twf cynaliadwy a thaclo hinsawdd sy’n newid, bydd angen i ni reoli’r newidiadau i’r seilwaith ynni sy’n angenrheidiol ar gyfer datgarboneiddio. Er mwyn datgarboneiddio mae angen gwneud newid sylfaenol i dair o leiaf o’r prif rwydweithiau seilwaith cenedlaethol, sef pŵer, trafnidiaeth a gwres. Mae’n hanfodol y caiff hyn ei wneud mewn modd sy’n sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’n effeithiol ac yn fforddiadwy, ac mewn ffordd sy’n cynnig cyfle i hyn fod o fudd i gadwyni cyflenwi Cymru.

 

3.3         A fydd y strategaeth newydd ‘Ffyniannus a Diogel’ yn golygu unrhyw newidiadau sylweddol i’r gefnogaeth sydd ar gael i’r sector ynni a sector  yr amgylchedd yng Nghymru.

Mae ynni yn sector blaenoriaeth diffiniedig i Lywodraeth Cymru ac mae’n rheidrwydd economaidd allweddol sy’n sail i’n nodau am Gymru ‘Ffyniannus a Diogel’. Mae ynni diogel a fforddiadwy yn hanfodol i gynhyrchiant a thwf economaidd. 

 

O ran cyfleoedd, mae hyn yn golygu cefnogi buddsoddiadau ynni mawr mewn ynni adnewyddadwy ar y tir, ynni’r môr, ynni niwclear ac ati, gan gynnwys ein dau brosiect mwyaf ar gyfer buddsoddi mewn ynni, sef Wylfa Newydd a Morlyn Llanw arfaethedig Bae Abertawe.

 

Er mwyn darparu ynni carbon isel diogel a fforddiadwy, mae angen cyfuniad o wahanol dechnolegau a meintiau, o lefel y gymuned i brosiectau mawr.

 

Yn fwy cyffredinol, wrth ddatblygu’n strategaethau trawsbynciol byddwn yn ystyried sut y gallwn gefnogi defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol yn well, er mwyn iddynt gyflawni buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’n pobl a’n cymunedau.

 

Mae gan ynni adnewyddadwy ran bwysig i’w chwarae wrth gyrraedd ein targed datgarboneiddio. Bydd ein Cynllun Cyflenwi Carbon Isel yn dangos sut y byddwn yn cefnogi ynni adnewyddadwy.

 

Mae cymelliadau ar gyfer ynni adnewyddadwy hefyd wedi bod o fudd i unigolion, cymunedau a busnesau drwy ddarparu ffrwd incwm o werthiant ynni.

 

Mae Cynllun Masnach Allyriadau yr UE (EU-ETS) yn bolisi Ewropeaidd allweddol sydd wedi’i anelu at ddatgarboneiddio’r diwydiannau cynhyrchu ynni a’r diwydiannau ynni-ddwys ar draws yr UE am gost is.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am drafodaeth yn fuan â Llywodraeth y DU i ystyried sut olwg fydd ar drefniadau’r dyfodol ar gyfer y busnesau hynny sy’n gorfod cymryd rhan yn EU-ETS, hynny i wneud yn siŵr bod unrhyw gynllun masnachu yn y dyfodol neu bolisi arall yn ei le yn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng yr angen i ddatgarboneiddio a’r pryderon ynghylch gollwng carbon, gallu busnesau i gystadlu a diogelu swyddi. 

 

Mae’r DU wedi arwain yr UE ar fuddsoddiadau glân, gan gyfrif am 37% o fuddsoddiadau ynni glân Ewrop yn 2016. Mae risg, o ymadael â’r UE, y bydd toriad yn y buddsoddiadau mewn ynni glân yn y DU a hefyd yn yr UE yn fwy cyffredinol ar ôl colli cyfraniad y DU i gyllideb yr UE ac efallai i Fanc Buddsoddi Ewrop.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall prosiectau morol a llanw fod yn gatalyddion i sicrhau buddion etifeddol hirdymor i Gymru ac mae’r ymrwymiad i gefnogi, mewn egwyddor, y gwaith o ddatblygu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys môr-lynnoedd llanw, wedi’i gyflwyno yn y Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen.  

 

Bydd pob prosiect ynni mawr yn destun caniatâd a chymeradwyaeth rheoleiddiol. Yn achos Morlyn Llanw Bae Abertawe, mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd yn ystyried y cais am drwydded forol gan Tidal Lagoon Power. Byddai’n amhriodol i mi wneud sylw ar fanylion y cais hwnnw.  

 

4     TRAFNIDIAETH – M4

 

4.1         Sut y mae ffordd liniaru arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 yn gydnaws â pholisi trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 yn cynnwys asesiad o effaith amgylcheddol sydd ar gael drwy’r ddolen gysylltiedig: http://gov.wales/topics/transport/planning-strategies/ntp/?lang=cy

 

Dros sawl blwyddyn ystyriwyd rhestr hir o fwy na 100 o opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau hirdymor sy’n gysylltiedig â’r M4 o amgylch Casnewydd. Mae’r datrysiad arfaethedig wedi bod trwy ‘Asesiad Amgylcheddol Strategol’ a oedd yn cynnwys asesiad o’r effaith ar iechyd ac asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, cyn ei roi ar brawf mewn Adolygiad Barnwrol yn 2015.

 

Datblygwyd y prosiect gan ddefnyddio’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, neu ‘WelTAG’, sy’n ystyried yr holl ffactorau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae’r adroddiadau diweddaraf a gyhoeddwyd hefyd yn cynnwys Datganiad Amgylcheddol manwl sy’n cyflwyno’r holl effeithiau a’r mesurau lliniaru arfaethedig, gan roi ystyriaeth, wrth gwrs, i newid yr hinsawdd.

 

Yn sgil cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cyhoeddwyd adroddiad ar Ddatblygu Cynaliadwy er mwyn ystyried sut y mae’r prosiect yn gydnaws â’i nodau. Mae dolen i’r adroddiad isod:

 

 http://bailey.persona-pi.com/Public-Inquiries/M4-Newport/C%20-%20Core%20Documents/2.%20Orders/2.3.11%20-%20M4%20Corridor%20around%20Newport%20Sustainable%20Development%20Report.pdf

 

Ar hyn o bryd mae arolygwyr annibynnol mewn Ymchwiliad Cyhoeddus yn craffu ar y prosiect i ystyried ai dyma’r datrysiad hirdymor, cynaliadwy i’r problemau sy’n gysylltiedig â’r M4 o amgylch Casnewydd. Bydd eu hadroddiad yn bwydo i benderfyniad terfynol ynghylch pa un a ddylid cychwyn ar y gwaith adeiladu.

 

4.2      Sut yr ydych wedi ymdrin â materion yn ymwneud â’r amgylchedd a datblygu cynaliadwy wrth ddatblygu’r prosiect.

 

Mae’r llwybr wedi’i gynllunio’n ofalus gan roi ystyriaeth i sensitifrwydd amgylcheddol Lefelau Gwent ac Afon Wysg. Mae dros hanner y llwybr ar dir llwyd, mae angen llai na 2% o ardal y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol  Arbennig yn Lefelau Gwent, a byddai’r effeithiau’n cael eu lliniaru.

 

Mae pwysigrwydd rhyngwladol i Afon Wysg o achos ei physgod mudol a’i dyfrgwn ac mae dan warchodaeth gyfreithiol. Byddai dyluniad y bont newydd ar draws y Wysg, a’r gwaith o’i hadeiladu, yn osgoi unrhyw effeithiau ar y rhywogaethau hyn.

 

Bydd ansawdd yr aer yn gwella’n sylweddol mewn sawl ardal o ganlyniad i’r cynllun, yn anad dim mewn ardaloedd trefol wrth ymyl coridor presennol yr M4.

 

Mae amcangyfrifon manwl wedi’u gwneud o allyriadau carbon prosiect yr M4 o ran y gwaith o adeiladu’r ffordd a’r defnydd o’r ffordd. Byddai allyriadau defnyddwyr ar rwydwaith De Cymru, er gwaethaf y cynnydd mewn traffig a ragwelir, mewn difrif yn lleihau ychydig o achos llwybr byrrach, mwy effeithlon traffig strategol.

 

Rwy’n ymwybodol o’n gofynion i leihau allyriadau CO2 80% erbyn 2050. Bydd Prosiect yr M4, fel cynlluniau eraill ar gyfer mannau traffig cyfyng, yn cyfrannu at gyflawni’n nod, ochr yn ochr â’r Metro ac, wrth gwrs, â thrydaneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd a chyflwyno ceir trydan.

 

4.3      Unrhyw gamau eraill rydych yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â hyn.

Rwy’n argyhoeddedig bod yn rhaid i’n dull ar gyfer datblygu rhwydwaith trafnidiaeth modern ac integredig ar gyfer Cymru gyfan fod yn fodel o ddatblygu cynaliadwy.

Er enghraifft, mae cyffordd Glan Llyn newydd yr M4 wedi’i lleoli’n bwrpasol i wasanaethau’r gymuned arfaethedig o 4,000 o gartrefi a 6,000 o swyddi ar hen safle Llan-wern, a bydd yn hyrwyddo ystyriaethau amgylcheddol drwy ymgorffori llwybrau beic a chysylltu â chyfleusterau Metro arfaethedig er mwyn annog newid moddol.

 

5     DATBLYGU A CHYFLAWNI POLISI TRAFNIDIAETH

5.1         Gwella cynaliadwyedd a lleihau effaith amgylcheddol gwasanaethau, asedau a seilwaith trafnidiaeth.

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru “cysylltu’r genedl” yn cyflwyno’r weledigaeth lefel uchel, sef hyrwyddo rhwydweithiau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n diogelu’r amgylchedd ar yr un pryd â chryfhau bywyd economaidd a chymdeithasol ein gwlad.

Mae’r strategaeth yn cyflwyno canlyniadau ac uchelgeisiau tymor hir ar gyfer ein hagendâu cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ac sy’n sail i Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.

 

Gan fod y strategaeth hon wedi’i chyhoeddi yn 2008, rwy wedi gofyn i Swyddogion adolygu’i chynnwys a’i diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol a welwyd ers ei chyhoeddi. Rwy’n rhagweld y caiff y strategaeth newydd ei chyhoeddi tua diwedd 2018. Bydd y strategaeth yn ystyried y nodau a’r egwyddorion a gyflwynir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru – Ffyniant i Bawb. Bydd y Strategaeth Drafnidiaeth yn gosod y weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth a fydd yn hyrwyddo rhwydweithiau a gwasanaethau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n diogelu’r amgylchedd ar yr un pryd â chryfhau bywyd economaidd a chymdeithasol ein gwlad.

 

Yn ogystal ag adolygu’r Strategaeth, byddaf yn lansio’r Arweiniad newydd ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru yr hydref hwn. Mae’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, neu ‘WelTAG’, yn ystyried yr holl ffactorau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y mae angen eu hystyried wrth ddylunio a datblygu cynigion trafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru. 

 

5.2         Cyfrannu at y gwaith o gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu’n polisïau trafnidiaeth a fydd yn sicrhau ein bod yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o gyflawni’r targed ar gyfer 2050 i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Mae angen i’n polisïau ystyried yr allyriadau carbon y mae’r sector trafnidiaeth yng Nghymru yn eu cynhyrchu a’r meysydd y mae gennym reolaeth drostynt. Mae’r sector trafnidiaeth yn cyfrif am oddeutu 13% o allyriadau carbon Cymru, sy’n cael eu cynhyrchu gan yr ystod wahanol o fathau o drafnidiaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr

 

Mae datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yn allweddol os ydym am gyflawni’n dyletswydd yn ôl Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gwtogi ar allyriadau carbon 80% fan leiaf erbyn 2050 ac er mwyn cyflawni’n hymrwymiadau sydd wedi’u gosod gan reoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010. Er bod llawer o’r ysgogiadau hyn yn nwylo Llywodraeth y DU, y mae rhai camau sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru a fydd yn cyfrannu at gyflawni’n hymrwymiad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Er enghraifft, mae amcangyfrifon manwl wedi’u gwneud o allyriadau carbon prosiect yr M4 o ran y gwaith o adeiladu’r ffordd a’r defnydd o’r ffordd. Byddai allyriadau defnyddwyr ar rwydwaith De Cymru, er gwaethaf y cynnydd mewn traffig a ragwelir, mewn difrif yn lleihau ychydig o achos llwybr byrrach, mwy effeithlon traffig strategol ar ôl adeiladu’r M4 newydd.

 

Un cyfraniad yw Prosiect yr M4 yn ymyl cynlluniau eraill ar gyfer mannau traffig cyfyng, a fydd yn cyfrannu at gyflawni’n gôl, ochr yn ochr â’r Metro a hyrwyddo mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, trydaneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd, beicio a cherdded a chyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn sy’n defnyddio tanwydd amgen mewn fflydoedd preifat a chyhoeddus.

 

Mae ein hadolygiad o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn gyfle i ddatblygu cysylltiadau agosach gyda chynllunio defnydd o’r tir a all arwain at leihau’r angen i deithio. Er enghraifft, gallai ystyried mabwysiadu’r egwyddor o leihau’r angen i deithio fel egwyddor gyntaf, ac fel ail egwyddor sicrhau bod unrhyw deithiau a wneir yn defnyddio dulliau mor gynaliadwy â phosibl. Hyd yn oed wedyn, bydd angen ymdrin â thagfeydd a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd ac yn benodol ar ansawdd yr aer.

 

5.3         Addasu i effaith newid yr hinsawdd.

 

Mae Adroddiad Tystiolaeth Asesu Risg Newid Hinsawdd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi nodi’r risgiau a ddaw i Gymru yn sgil hinsawdd sy’n newid.  Mae’n disgrifio risgiau penodol i seilwaith, busnesau a diwydiant ac yn cynnig argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.  Fel ymateb i hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu Cynllun Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Cymru yn 2018.

 Lleihau llygredd aer, tir a dŵr.

Mae lleihau effaith y seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth ar ansawdd yr aer neu ddŵr yn ystyriaeth bwysig yn ystod y gwaith o ddatblygu a chyflawni cynlluniau ffordd newydd a gwelliannau i’r rhwydwaith presennol.

 

Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglen o welliannau drwy ein rhaglen Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer a’n rhaglen Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn.

 

5.4         Lleihau’r effaith ar fioamrywiaeth a cheisio gwella bioamrywiaeth.

Pan fyddwn yn buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth newydd, ble bynnag bo hynny’n bosibl mae ein dyluniadau’n ymgorffori seilwaith gwyrdd, yn creu coridorau gwyrdd a rhwydweithiau ecolegol ehangach, ac maent wedi’u lleoli i osgoi darnio cynefinoedd.

 

6     CYFFREDINOL

 

6.1       Sut y mae ystyriaethau amgylcheddol wedi’u hadlewyrchu yn y broses o osod y gyllideb a hefyd mewn dyraniadau ar gyfer y gyllideb ddrafft bresennol, yn cynnwys manylion am unrhyw newidiadau a wnaed yn y gyllideb ddrafft bresennol i ymdrin â materion amgylcheddol.

Mae datblygu cynaliadwy – ac mae ystyriaethau amgylcheddol yn rhan allweddol o hynny – wrth galon ein proses benderfynu.

 

Er enghraifft, mae ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn y cynigion hyn ar gyfer y gyllideb, yn cefnogi’n huchelgais i leihau allyriadau drwy gwtogi’r defnydd ar geir a sicrhau cerbydau glanach a mwy effeithlon, sy’n beth da o ran ein hiechyd a’n hamgylchedd. Er enghraifft, bydd Metro De Cymru yn trawsnewid y ffordd a deithiwn o amgylch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a mwy cydgysylltiedig gan ddefnyddio trenau, bysiau a rheilffyrdd ysgafn.  

 

Roedd lleihau allyriadau carbon yn ystyriaeth bwysig yn ein penderfyniad i ddyrannu £50m o gyllid pellach i ddatblygu gorsaf drenau newydd yn Llan-wern. Bydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar leihau allyriadau carbon a, gyda’r cyfleusterau parcio a theithio helaeth a gwelliannau i’r llinell a ddaw yn sgil ein buddsoddiad, bydd yn annog newid moddol oddi wrth geir preifat tuag at drenau.

 

6.2         Sut yr ydych yn monitro a gwerthuso’r effaith ar yr amgylchedd o fewn eich portffolio, yn cynnwys manylion am ddangosyddion penodol, perfformiad diweddar ac enghreifftiau o gamau a gymerwyd neu newidiadau polisi a weithredwyd i ymdrin ag unrhyw feysydd ble mae tanberfformiad.

Caiff y canlyniadau eu monitro ar gyfer pob un o’r prosiectau a’r contractau a reolir o fewn y portffolio. Cynhelir astudiaethau dichonoldeb cyn cychwyn ar brosiectau allweddol i asesu a yw’n addas parhau â nhw wrth gyflawni’n nodau llesiant. Bydd yr asesiad hwn yn cynnwys ystyriaeth o effeithiau ar yr amgylchedd ond bydd cwmpas yr ystyriaeth hon yn dibynnu ar natur y buddsoddiad. Er enghraifft, caiff ein cefnogaeth i sgiliau a swyddi, er mwyn sicrhau bod gan bobl y sgiliau priodol i wneud cyfraniad ystyrlon i gymdeithas, ei asesu yn ôl ansawdd yr addysg a ddarperir, a bydd yn canolbwyntio i raddau llai ar ystyriaethau amgylcheddol. Mae ein buddsoddiad yn yr M4 a’n buddsoddiadau mewn ffyrdd, er enghraifft, yn dilyn proses ‘WelTAG’ a bydd yn ystyried yr holl ffactorau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Caiff y rhain eu hasesu’n barhaus tra bydd y prosiect yn mynd rhagddo.

 

Caiff prosiectau a rhaglenni eu gwerthuso yn ystod y prosiectau ac ar eu diwedd, a gellir cynnal gwerthusiadau yn fewnol neu gan gontractwyr allanol.

 

Cynhelir adolygiadau Gateway ar gyfer prosiectau mawr er mwyn asesu eu gwerth am arian ac mae archwiliadau mewnol a rhai allanol wedi’u cynnal, a byddant yn cael eu cynnal, sy’n rhoi tystiolaeth bellach i gefnogi canlyniadau polisïau. 

 

http://ppiw.org.uk/files/2016/10/PPIW-Summary-of-Expert-Workshop-Improving-the-Economic-Performance-of-Wales.pdf

 

Mae comisiynu gwerthusiadau ac ymchwil yn un ffordd o gynnull tystiolaeth ar bolisïau a rhaglenni, ond nid dyma’r unig ffordd ac nid dyma’r ffordd fwyaf priodol bob tro.

 

Mae’r portffolio’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gynnull tystiolaeth ac i werthuso polisïau a rhaglenni. Mae rhai o’r rhain yn llywio’r broses drwy gyfrwng cyngor arbenigol a dysgu.

 

6.3         Sut y mae’r adran wedi addasu neu newid ei pholisi neu arferion o ganlyniad i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud y cyfraniad gorau posibl at gyflawni’r nodau llesiant, a mabwysiadu’r pum ffordd o weithio, sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae ein cynigion cyllideb wedi parhau i edrych ar sut yr ydym yn ymgorffori’r pum ffordd o weithio i’n helpu i gael yr effaith mwyaf posibl, i lywio’n cynlluniau sy’n cefnogi Symud Cymru Ymlaen ac i weithio mewn ffordd integredig wrth ystyried yr effeithiau ar grwpiau sydd wedi’u gwarchod, cefnogi canolbwyntio ar ein nodau cenedlaethol cyffredin a chyflawni economi a chenedl cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw prif egwyddor drefniadol ein cynllun, sy’n sicrhau bod ein penderfyniadau’n rhoi ystyriaeth i’r amcanion a’r effeithiau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. O wneud hynny, rydym yn gweithio mewn ffordd sy’n sicrhau bod ein polisïau a’r gwaith o’u cyflawni yn rhai cynhwysol, cydweithredol, integredig ac ataliol sy’n cynnwys buddsoddiadau tymor hir. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym wedi bod yn datblygu pecyn cymorth gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith, pecyn a fydd yn ein galluogi i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau cenedlaethol cyffredin.

 

Mae’n ofynnol i gynigion am unrhyw weithgareddau busnes ddarparu tystiolaeth eu bod yn gydnaws ag un neu fwy o’r saith Nod Llesiant yn ogystal ag un neu fwy o amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae’n ofynnol i feysydd cyflawni ddangos bod pum egwyddor gweithio’n gynaliadwy wedi’u rhoi ar waith lle bo hynny’n bosibl wrth baratoi achosion busnes. Pan fyddwn yn cytuno ar ddyraniadau gyda meysydd busnes, rydym yn asesu effeithiau’r elfennau hyn ynghyd â ffactorau eraill er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau a wneir o ran cyllidebau yn cefnogi’r achosion busnes mwyaf priodol. 

 

 

Cyfarfûm â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fis Rhagfyr diwethaf i drafod yr M4 a phrosiectau eraill. Croesewir ei barn fod yn rhaid i’r broses benderfynu ystyried holl nodau a holl ffyrdd o weithio y Ddeddf.

 

Rydym wedi adolygu ‘WelTAG’ drwy weithio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn darparu arweiniad gwell a sicrhau ei fod yn cydweddu’n agosach â’r 5 ffordd o weithio er mwyn cyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.